
“The way you change a system nationally is to do thousands of local things, and eventually the system evolves”
Joe Concra
Mae Gŵyl Sbarcio’r Syniad wedi dechrau creu mudiad o amgylch arddangos ac annog creadigrwydd ac arloesedd ar gyfer newid cymdeithasol a thrawsnewid, gan alluogi pobl i fod yn rhan o raglen genedlaethol wrth barhau i allu canolbwyntio ar newid a materion lleol.
Dyluniwyd Sbarcio’r Syniad i ddod ag ethos Sbarcio’r Syniad i Gymru, i ddathlu’r amrywiol ffyrdd creadigol ac arloesol yr ydym i gyd yn cyfrannu at greu Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol. Mae hefyd yn ffordd o fynd i’r afael ag anghenion tymor hwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Wnaeth Gŵyl gyntaf Sbarcio’r Syniad cael ei chynnal rhwng 27 Ionawr a 14 Chwefror 2020. Cafwyd y mwyafrif o ddigwyddiadau eu cynnal gan gymunedau ynghyd â phartneriaid a chydweithwyr o bob rhan o’r gwasanaethau sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat yng Nghymru.
Buddion Sbarcio’r Syniad
Dyluniwyd Sbarcio’r Syniad i ddarparu gŵyl tair wythnos o ddigwyddiadau dysgu cydweithredol, a fydd yn taflu golau ar ffyrdd creadigol, aflonyddgar ac arloesol y gallwn i gyd drawsnewid ein hunain, ein sefydliadau a’r gymdeithas ehangach.
Tanau Newid Bach (ein theori newid)
- Credwn fod newid yn digwydd trwy ymddangosiad mewn sefyllfaoedd cymhleth.
- Mae lleoedd a dulliau creadigol yn annog amrywiaeth o safbwyntiau ar faterion cymhleth.
- Mae gweithredoedd bach yn caniatáu i ni gymryd risgiau bach, rhoi cynnig ar bethau newydd – gan dynnu sylw at bosibiliadau newydd.
- Gallai gweithredoedd fod mor syml ag archwilio cwestiwn neu gael sgwrs – gall hynny danio newid systemig.
Rydym yn eich gwahodd i gynnal digwyddiad pwrpasol ar thema, pwnc neu faes gwaith rydych chi’n teimlo sy’n cyd-fynd â’n hethos. Y naill ffordd neu’r llall, mae yna lawer o fuddion i brosiectau, rhaglenni a sefydliadau sy’n cynnal digwyddiadau trwy Sbarcio’r Syniad, gan gynnwys cyfleoedd i:
- arddangos eich gwaith
- ymestyn rhwydweithiau a datblygu syniadau gyda phartneriaid newydd.
- cymryd rhan mewn llwyfan cenedlaethol, gan arddangos arloesedd a chreadigrwydd mewn gwasanaeth cyhoeddus.
- cydweithredu a defnyddio adnoddau cyhoeddus yn fwy effeithiol ac effeithlon.
- helpu i lunio lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Cynnal digwyddiad
I gynnal digwyddiad, rhaid i’ch digwyddiad gyd-fynd ag egwyddorion ac ethos craidd Sbarcio’r Syniad.
Egwyddorion ac ethos craidd
Dylai digwyddiadau Sbarcio’r Syniad:
- ddathlu’r amrywiol ffyrdd creadigol ac arloesol yr ydym i gyd yn cyfrannu at greu Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.
- rhoi cyfleoedd i gyfranogwyr glywed am feysydd gwaith na wnaethant fod yn agored iddynt o’r blaen a chymryd rhan ynddynt.
- cael eu cynnal mewn ffyrdd creadigol, gwahanol a gafaelgar, gan wneud y defnydd gorau o’ch doniau, sgiliau a diddordebau, yn y gwaith a thu hwnt iddo.
- defnyddio gwahanol lefydd, mannau a lleoliadau ledled Cymru, y tu mewn ac yn awyr agored.
Rhaid i’r digwyddiadau a gynhelir yn ystod yr ŵyl fod:
- am ddim i’w mynychu – ni chodir tâl am gymryd rhan mewn digwyddiadau Sbarcio’r Syniad.
- yn hygyrch ag agored – rhaid i ddigwyddiadau fod yn agored i gyfranogwyr, ni waeth beth yw eu sefydliad na’u cefndir.
- hunandrefnedig – rhaid i’r digwyddiadau gael eu trefnu gan y rhai sy’n eu cynnal a’u partneriaid. Yn anffodus, tîm cyfyngedig sydd gan Sbarcio’r Syniad ac ni allant gefnogi, darparu adnoddau nac ariannu digwyddiadau.
Rhaid i ddigwyddiadau beidio â:
- Chael eu hystyried yn gyfle masnachol.
- Bod yn llwyfan i wthio un ideoleg neu safbwynt gwleidyddol.
Rolau a chyfrifoldebau
Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni ac yn ychwanegu digwyddiad at raglen Sbarcio’r Syniad. I’ch helpu chi, isod mae ychydig o’r cyfrifoldebau sydd gennym ni fel trefnwyr, yn ogystal ag ychydig o’r cyfrifoldebau rydyn ni’n disgwyl i drefnwyr digwyddiadau eu cymryd.
Ein rôl – trefnwyr Sbarcio’r Syniad
- Byddwn yn cynnal y rhaglen gyffredinol ar gyfer Gŵyl Sbarcio’r Syniad.
- Byddwn yn cysylltu â holl ddigwyddiadau Sbarcio’r Syniad o’n calendr digwyddiadau ar wefan Sbarcio’r Syniad, gan sicrhau’r cyrhaeddiad a’r ymgysylltiad mwyaf posibl ar gyfer pob digwyddiad.
- Byddwn yn rhannu holl ddigwyddiadau Sbarcio’r Syniad yn y cysylltiadau post a raglennwyd gennym, ac a fydd yn cael eu cylchredeg yn eang o amgylch rhwydweithiau cyhoeddus a thrydydd sector yng Nghymru.
- Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i Sbarcio’r Syniad yn ei gyfanrwydd, ac yn eich helpu i wneud cysylltiadau â sectorau a sefydliadau newydd.
Eich rôl – cynhaliwr digwyddiad
- Byddwch chi, a phartneriaid eich digwyddiad yn darparu adnoddau ar gyfer yr holl hwyluso a gweinyddu sy’n ofynnol i redeg eich digwyddiad, sy’n cynnwys yr hol ofynion iechyd a diogelwch, moesegol a phreifatrwydd.
- Byddwch yn rhoi cyhoeddusrwydd i’ch digwyddiad (a’r ŵyl yn ei chyfanrwydd gobeithio) ar eich rhwydweithiau. Y digwyddiadau mwyaf llwyddiannus yw’r rhai sy’n cael cyhoeddusrwydd gan gynhalwyr yn ogystal â threfnwyr Sbarcio’r Syniad.
- Byddwch yn rhannu allbynnau o’ch digwyddiad – boed yn ffotograffau, astudiaethau achos, fideos neu werthusiadau – gyda threfnwyr Sbarcio’r Syniad, i’n helpu i adeiladu tystiolaeth o effaith yr ŵyl.
- Byddwch chi’n cael hwyl! Mae Sbarcio’r Syniad yn ymwneud yn llwyr â chreadigrwydd ac arloesedd – gobeithiwn y byddwch yn cynnal ysbryd creadigrwydd a chwarae trwy gydol y broses o gymryd rhan yn yr ŵyl.
Os nad ydych yn siŵr a yw’ch digwyddiad yn cyd-fynd â’r rhaglen hon, cysylltwch â ni i drafod ymhellach yn SbarciorSyniad@llyw.cymru.
Ymholiad Sbarcio’r Syniad
Llenwch y ffurflen ganlynol er mwyn i ni allu trefnu cymorth/cyngor/arweiniad ar gyfer eich digwyddiad Sbarcio’r Syniad. Byddwn yn ymateb i’ch ymholiad cyn gynted â phosibl.
Cyflwyno’ch digwyddiad
Rhaid i chi gyflwyno gwybodaeth am eich digwyddiad trwy’r ffurflen Cyflwyno Digwyddiad – dyddiad cau 17 Ionawr 2020.
Gwiriwch y nodiadau am y cwestiynau canlynol:
- Baner/Llun Digwyddiad – efallai y byddwn yn newid hwn i logo Sbarcio’r Syniad
- Dolen i Dudalen y Digwyddiad – gallwch roi dolen i unrhyw dudalen we digwyddiad, nid Eventbrite yn unig
- Categorïau Digwyddiad – dewiswch ‘Fire Starter Wales’ ym maes Categorïau Digwyddiad. Bydd hyn yn ein helpu i adolygu’ch digwyddiad yn gyflymach.
Byddwn yn anelu at adolygu eich digwyddiad o fewn tri ddiwrnod gwaith. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gyflwyno’ch digwyddiad, cysylltwch â ni yn SbarciorSyniad@llyw.cymru.
Rhannu digwyddiadau
Defnyddiwch yr hashnodau #SbarciorSyniad a #FireStarterWales i rannu newyddion am ddigwyddiadau Sbarcio’r Syniad.
Amdanom ni
Mae Sbarcio’r Syniad yn cael ei gefnogi a’i guradu gan Academi Wales, ac mae mwyafrif y digwyddiadau’n cael eu cynnal gan gymunedau ynghyd â phartneriaid a chydweithwyr o bob rhan o’r gwasanaethau sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat yng Nghymru.
Cysylltwch â ni yn SbarciorSyniad@llyw.cymru.
Pam rydyn ni’n cynnal Sbarcio’r Syniad
Yn fyd-eang ac yn genedlaethol, rydym yn wynebu heriau cymhleth na all unrhyw unigolyn, sefydliad, sector neu wlad fynd i’r afael â nhw ar wahân. Mae angen gofodau creadigol a gwahanol fathau o sgyrsiau arnom i gysylltu ac ailgysylltu, archwilio, herio a dychmygu beth sy’n bosibl. Mae angen i ni fentro wrth roi cynnig ar syniadau a dysgu o rannu ‘gwaith sydd ar y gweill’.
Partneriaid Sbarcio’r Syniad
Academi Wales sy’n gyfrifol am gynhyrchiad creadigol cyffredinol Sbarcio’r Syniad. Mewn cydweithrediad â phartneriaid rydym yn gosod ethos a pharamedrau’r ŵyl.
Tîm craidd Academi Wales sy’n hwyluso’r ŵyl ac yn:
- cefnogi trefnwyr digwyddiadau lleol yng Nghymru i ddatblygu syniadau yn ddigwyddiadau.
- curadu digwyddiadau i mewn i raglen gyffredinol sy’n cael cyhoeddusrwydd trwy rwydweithiau.
Mae timau trefnu lleol yn gyfrifol am guradu digwyddiadau yn eu hardal eu hunain, ac efallai yr hoffent ystyried sut y maent yn cefnogi digwyddiadau gan drefnwyr unigol.
Cefnogir Sbarcio’r Syniad gan Academi Wales gyda chefnogaeth sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus gan gynnwys: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Eden Project Cymunedau, Heddlu Dyfed-Powys, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Wrecsam Glyndwr, Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Tempo ac Y Lab.
Cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer datblygu’r ŵyl
Rydym yn annog defnyddio dulliau creadigol. Yn draddodiadol, mae’r celfyddydau wedi arwain yn y maes hwn, gydag ystod o ddigwyddiadau gŵyl yn esgor ar ysgogiadau. Rydym yn awyddus i archwilio ym mha ffyrdd y gallem ddod â rhai mwy o’r dulliau hyn i mewn i Sbarcio’r Syniad.